Romanticism and Folklore |
Rhamantiaeth a Llên Gwerin |
By the 18th century, the traditional beliefs and practices of ordinary Welsh men and women were valuable reminders of an ancient culture and traditional way of life that was rapidly disappearing. This was part of a general European phenomenon in which the masses or ‘folk’ suddenly became a subject of interest to European intellectuals.
The works of the Brothers Grimm, for example, portrayed popular tales and folksongs as moral forms of literature belonging to a bygone way of life. Vertical Divider
|
Erbyn y 18fed ganrif, roedd credoau ac arferion traddodiadol cyffredin dynion a merched Cymru yn fodd gwerthfawr i’n hatgoffa o hen ddiwylliant a ffordd draddodiadol o fyw oedd yn diflannu'n gyflym. Roedd hyn yn rhan o ffenomen Ewropeaidd gyffredinol pan ddaeth y lluoedd, neu’r ‘werin’ yn sydyn yn destun pwnc o ddiddordeb i ddeallusion Ewropeaidd.
Roedd gwaith y Brodyr Grimm, er enghraifft, yn portreadu chwedlau poblogaidd a chaneuon gwerin fel mathau moesol o lenyddiaeth sy'n perthyn i hen ffordd o fyw. |
Jacob & Wilhelm Grimm, Tales from the brothers Grimm, (London, 1930)
The Brothers Grimm published their first collection of folk tales, Children’s Household Tales, in 1812. Their influence soon spread across the globe, with stories such as Cinderella, the Frog Prince, and Snow White becoming popular. Commonly referred to as Grimm’s Fairy Tales, this edition from Haselwood Private Press contains some of their more famous tales, including ‘The Elves’.
|
Cyhoeddodd y brodyr Grimm eu casgliad cyntaf o chwedlau, Children’s Household Tales, yn 1812. Tyfodd eu dylanwad ar draws y byd yn gyflym wedyn, a daeth straeon megis Sinderela, y Tywysog Broga ac Eira Wen yn boblogaidd. Mae’r rhifyn hwn gan Wasg Breifat Haselwood - rhifyn sy’n cael ei alw’n gyffredinol yn Grimm’s Fairy Tales - yn cynnwys rhai o'u chwedlau enwocaf, gan gynnwys ‘Y Coblyniaid’.
|
Evans, David, Detholiad o Chwedlau Grimm, gyda darluniadau, (Wrecsam, 1927)
Translated by the author, this small book is possibly the first published Welsh collection of Grimm’s Fairy Tales. It includes favourites like Rumplestiltskin – Llanastrstrudfach, and Hansel and Gretel – Sioni a Sianw.
|
Mae’n bosibl mai’r llyfr hwn - a gyfieithwyd gan yr awdur - yw’r casgliad Cymraeg cyntaf o Straeon Tylwyth Teg Grimm. Mae'n cynnwys ffefrynnau fel Llanastrstrudfach – Rumplestiltskin, a Sioni a Sianw - Hansel a Gretel.
|
In Wales, works by authors such as Peter Roberts (1760-1819), and those influenced by the growing number of London Welsh Societies such as the Honourable Society of Cymmrodorion (1751) and the Gwyneddigion (1770), helped to revive traditional Welsh culture and literature.
This period also saw the appearance of the term ‘folklore’, and its emergence as a field of serious academic study. Vertical Divider
|
Yng Nghymru, roedd gwaith gan awduron megis Peter Roberts (1760-1819), a'r rheini y cawsant eu dylanwadu gan y nifer cynyddol o gymdeithasau Cymraeg Llundain, megis Cymdeithas y Cymmrodorion (1751) a'r Gwyneddigion (1770), wedi helpu i adfywio diwylliant a llenyddiaeth Cymreig traddodiadol.
Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y daeth y term ‘llên gwerin’ i fodolaeth, a daeth i fod yn faes astudiaeth academaidd o ddifrif. |
Honourable Society of Cymmrodorion, Constitutions of the Honourable Society of Cymmrodorjon in London...1751: Gosodedigaethau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorjon yn Llundain...1751, (London: Printed for the use of the Society 1778).
The Honourable Society of Cymmrodorion, founded by Richard Morris (1703-1779) in 1751, was one of the many London-based Welsh societies aiming to promote the language, literature and culture of Wales. The Society’s constitutions also reveal how ‘queries of the invisible world’, including Knockers and corpse candles, were also part of their remit.
Vertical Divider
|
Roedd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, a sefydlwyd gan Richard Morris (1703-1779) yn 1751, yn un o nifer o gymdeithasau Cymreig Llundain oedd â’r nod o hyrwyddo iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Mae cyfansoddiadau'r Cymdeithasau hefyd yn datgelu sut roedd 'ymholiadau o'r byd anweledig', gan gynnwys Knockers a chanhwyllau corff, hefyd yn rhan o'u cylch gwaith.
|
Y Brython, Vol. 1
This popular Welsh language magazine ran from 1858 to 1863 and was devoted to the literature and antiquities of Wales. Despite its brief existence, this publication firmly established the field of folklore as a valid topic for academic scrutiny. The column ‘Llên y Werin’ was a regular feature, recording valuable discourse on beliefs such as the Toili (‘phantom funeral’), apparitions, and the Tylwyth Teg.
Vertical Divider
|
Cafodd y cylchgrawn Cymraeg hwn ei gyhoeddi rhwng 1858 ac 1863 ac roedd wedi’i neilltuo i lenyddiaeth a hynafiaeth Cymru. Er gwaethaf ei fodolaeth byr, gwnaeth y cyhoeddiad hwn sefydlu maes llên gwerin fel pwnc dilys ar gyfer astudiaeth academaidd. Roedd ‘Llên y Werin’ yn golofn reolaidd a gofnodai drafodaeth werthfawr ynghylch credoau megis y Toili ('angladd lledrithiol'), drychiolaethau, a’r Tylwyth Teg.
|